Niet blij met je aankoop? Geeft niet! Je kunt artikelen tot 30 dagen retourneren
Met een cadeaubon zit je altijd goed. De ontvanger kan de cadeaubon voor alles uit ons assortiment inwisselen.
Tot 30 dagen retourrecht
(The Welsh novel Gŵr y Dolau by William Llewelyn Williams)
W. Llewelyn Williams
Gŵr y Dolau
Pe gwelsai bardd neu arlunydd hi ben bore yn rhedeg allan i'r clos â phadellaid o geirch yn ei llaw-a'r gwynt nwyfus yn chwarae â'i gwallt ac yn codi gwrid i'w hwyneb... a'i gweld yn bwydo â llaw dirion y fronrhuddyn a'r aderyn y to, ac yn ysgwyd ei ffedog yn wyneb rhyw hwyad daeog neu iâr reibus a'i gyrru ar ffo i'w lle eu hun: pe gwelsai bardd neu arlunydd hyn, meddaf, coronai hi ar unwaith yn Frenhines yr Adar. Ond nid oedd bardd neu arlunydd yn y Gelli, ac ni thynnodd sylw neb ond Leisa wrth fwydo'r ieir a'r adar. Ac ni ddywedodd Leisa ond hyn: "Dir safio ni! Garw mor ffond o ffowls mae Miss Bowen."
Mae'r gantores dywilliedig Gladys Bowen yn dychwelyd o Lundain i aros gyda'i modryb yn Sir Gaerfyrddin. Yno mae'n cwrdd â chymeriadau rhyfedd a hoffus bro Llanelwid: Nat y Gof direidus, Leisa'r llaethwraig, Robin y prydydd hunan-bwysig a Mr. Rowlands y ciwrat chwithig. Ond gan un gŵr yn unig mae calon Miss Bowen...
Yn wleidydd, newyddiadurwr, cyfreithiwr a hanesydd, William Llewelyn Williams oedd un o nofelwyr Cymraeg mwyaf talentog ei gyfnod. Comedi cymdeithasol yw'r nofel hon ac mae'n fynegiant llawn o gariad yr awdur at ei wlad a'i fro enedigol.
Hoi! Ik ben Libroamiko, je boekadviseur.
Hoe kan ik je helpen?