Niet blij met je aankoop? Geeft niet! Je kunt artikelen tot 30 dagen retourneren
Met een cadeaubon zit je altijd goed. De ontvanger kan de cadeaubon voor alles uit ons assortiment inwisselen.
Mae Cyfri'n Cewri yn dathlu bywyd a gwaith mathemategwyr a gysylltir a Chymru. Pan gyfansoddwyd yr anthem genedlaethol ym 1856, roedd Cymru ym merw y Chwyldro Diwydiannol, gyda chymdeithasau gwyddonol yn codi fel madarch ar hyd a lled y wlad. Erbyn diwedd y ganrif, roedd ein dehongliad o'n diwylliant fel un sy'n cynnwys y gwyddorau yn ogystal a'r celfyddydau wedi culhau i gynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth a chrefydd ar draul bron i bopeth arall. Yn dilyn poblogrwydd ei gyfrol Mae Pawb yn Cyfrif, mae'r awdur yma'n defnyddio'r un arddull i'n gwahodd i ymfalchio yn ein mathemategwyr ac i ddangos sut y mae'r rhod wedi troi.